Porthladd Rhydd Celtaidd

Mae Porthladd Rhydd Celtaidd yn brosiect newydd cyffrous a fydd yn datgloi'r cyfleoedd ehangaf posibl i Gymru drwy gyflymu arloesedd ac annog buddsoddiad sylweddol, wrth gyflymu datblygiad sgiliau modern ar gyfer diwydiannau gwyrdd newydd a datgarboneiddio cenedlaethol.

Newyddion: Cynnig gweddnewidiol ar gyfer Porthladd Rhydd Celtaidd yn cael ei gymeradwyo.

Cefndir

Ym mis Medi 2022, gwahoddodd llywodraethau Cymru a'r DU gynigion ar gyfer porthladd rhydd yng Nghymru.

Y dyddiad cau ar gyfer cynigion oedd 24 Tachwedd 2022, a disgwylir cyhoeddi'r cynnig buddugol ar ddechrau'r gwanwyn yn 2023.

Cafodd y cynnig Porthladd Rhydd Celtaidd ei gyflwyno ar ran consortiwm cyhoeddus-preifat, y mae ei bartneriaid yn cynnwys Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Phorthladd Aberdaugleddau.

Mae’r consortiwm yn paratoi achos busnes ac yn sefydlu trefniadau llywodraethu cadarn, ochr yn ochr â’r strwythurau corfforaethol a chyfreithiol angenrheidiol, i ganiatáu ar gyfer dynodi’r porthladd rhydd yn ffurfiol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y Gwanwyn/yr Haf 2024.

Gyda safleoedd datblygu ledled Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro, bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn:

Dysgwch fwy am y Porthladd Rhydd Celtaidd, a beth fyddai arwyddocâd hynny i Gymru a gweddill y DU yma.