Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn croesawu caniatâd cynllunio Haush ar gyfer cyfleuster cynhyrchu hydrogen gwyrdd 15 MW yn Noc Penfro, sydd wedi ei leoli yn Safle Treth Aberdaugleddau.
Mae’r garreg filltir hon yn cryfhau statws cynyddol y Porthladd Rhydd fel hwb hydrogen.
Nod y cyfleuster yw cynhyrchu tanwydd sero allyriadau ar gyfer y sectorau adeiladu, morol a chludiant, a hynny gan greu swyddi lleol medrus a rhoi hwb i dwf economaidd yn Ne Cymru.
I gael gwybod mwy am y prosiect, ewch i: haush.co.uk