Mae'r Porthladd Rhydd Celtaidd yn brosiect cyffrous a fydd yn datgloi'r cyfleoedd ehangaf bosibl i Gymru drwy gyflymu arloesedd ac annog buddsoddiad sylweddol, wrth olrhain sgiliau modern ar gyfer diwydiannau gwyrdd newydd a datgarboneiddio ar lefel genedlaethol.
Yn dilyn ein corffori fel cwmni, rydym yn chwilio am Gadeirydd am dymor cychwynnol o dair blynedd.
Gan arwain ein bwrdd, sy’n cynnwys cyfarwyddwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat, ynghyd â gweithio gyda’n Prif Weithredwr, sydd newydd gael ei benodi, byddwch yn sicrhau y caiff y prosiect hanfodol hwn ei gyflawni. Fel cynullydd naturiol, byddwch yn gweithio ar draws ein partneriaid, tirfeddianwyr, cadwyni cyflenwi a thu hwnt, er lles ein trigolion. Byddwch yn gweithredu fel cennad byd-eang a chenedlaethol dros y Porthladd Rhydd a'r rhanbarth ehangach, gan gysylltu â diwydiant a’r llywodraeth ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal â chymunedau lleol. Yn anad dim, byddwch yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiad i sicrhau ffyniant a thwf economaidd, gan sicrhau'r gwerth mwyaf posibl o'n hasedau adeiledig a naturiol aruthrol.
Byddwch yn gyfarwyddwr gweithredol neu anweithredol profiadol gyda hanes o gyflawni pethau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan weithio ar draws ffiniau sefydliadol a daearyddol. Byddwch yn sicrhau y caiff y safonau uchaf eu cynnal o ran llywodraethu, a bod y bwrdd a chwmni ehangach y Porthladd Rhydd Celtaidd yn cyflenwi’r prosiect trawsnewidiol hwn. Byddwch hefyd yn rhannu ein gwerthoedd, a'n hymrwymiad i sicrhau gwell canlyniadau cymdeithasol ac economaidd i bobl ein rhanbarth, ochr yn ochr â datblygu DU lanach, wyrddach a mwy ynni-annibynnol.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl a'r broses ymgeisio, cysylltwch â'n partneriaid chwilio gweithredol,
GatenbySanderson, am drafodaeth gyfrinachol: Seb Lowe (seb.lowe@gatenbysanderson.com),
Rebecca Hopkin (rebecca.hopkin@gatenbysanderson.com) neu Alex Hayes (alex.hayes@gatenbysanderson.com).
Dyddiad cau: Dydd Gwener 27 Medi 2024