Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn croesawu cyllid gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Tanwydd Uwch ar gyfer menter DRAGON 1 a 2 LanzaTech UK.
Bydd yr arian hwn yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu cyfleuster cynhyrchu tanwydd hedfan cynaliadwy (neu SAF) yn Safle Treth Port Talbot, a gafodd ganiatâd cynllunio yn 2024.
Bydd y buddsoddiad yn cyflymu’r gwaith o gyflawni gorsaf fasnachol DRAGON 1, a fydd yn cyfnewid ethanol carbon wedi’i ailgylchu yn danwydd hedfan cynaliadwy, yn ogystal â chefnogi gyda’r gwaith cynnar o ddatblygu DRAGON 2 – cyfleuster newid pŵer yn hylif sy’n newid gwastraff CO₂ a hydrogen gwyrdd yn ethanol er mwyn ei gyfnewid yn danwydd hedfan cynaliadwy.