Polisi Preifatrwydd

Mae'r Porthladd Rhydd Celtaidd yn gydweithrediad rhwng Porthladdoedd Cysylltiedig Prydain (ABP), Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (NPT), Cyngor Sir Penfro (PCC) a Phorthladd Aberdaugleddau (MHPA)) y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel "Ni" neu "Ein".

Mae'r Celtic Freeport Company Ltd wedi ei sefydlu ond nid yw'n weithredol eto.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018.

Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol

CNPT yw'r prif sefydliad mewn perthynas â'r Porthladd Rhydd Celtaidd a nhw yw'r Corff Cyfrifol.

I gael gwybodaeth am sut mae CNPT yn defnyddio eich data personol, gan gynnwys eich hawliau fel gwrthrych data, gweler eu hysbysiad preifatrwydd corfforaethol ar eu gwefan:

Hysbysiad Preifatrwydd CNPT: https://www.npt.gov.uk/16238

Am fwy o wybodaeth am eich hawliau, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ neu dpo@npt.gov.uk]

ABP sy'n cynnal y wefan hon ac mae'n casglu'r wybodaeth bersonol a gesglir trwyddi.

I gael gwybodaeth am sut mae ABP yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol, gan gynnwys eich hawliau fel gwrthrych data, gweler eu hysbysiad preifatrwydd corfforaethol ar eu gwefan:

Hysbysiad Preifatrwydd ABP: https://www.abports.co.uk/support/privacy-notice/

Am fwy o wybodaeth am eich hawliau, cysylltwch â:
Rheolwr Diogelu Data a Chydymffurfiaeth Grŵp yn:

  • dataprotection@abports.co.uk,
  • 07398 671 462
  • neu drwy'r post at sylw Group Data Protection & Compliance Manager,<span> </span>Associated British Ports, 25 Bedford Street, London WC2E 9ES.

Gwybodaeth Preifatrwydd Ychwanegol

Mae'r wybodaeth ganlynol yn benodol i'r Porthladd Rhydd Celtaidd.

Yr hyn rydym yn ei gasglu

Byddwn yn casglu ac yn defnyddio'r data personol canlynol amdanoch:

  • eich enw, cyfeiriad a gwybodaeth gyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn a manylion y cwmni

Sut a pham rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth dim ond mewn perthynas â'r Porthladd Rhydd Celtaidd ac i ddatblygu ei weithrediadau.

Mewn perthynas â'r data a ddarparwyd gennych chi, rydym yn dibynnu ar amod(au) Erthygl 6 canlynol i brosesu eich data personol yn gyfreithlon;
"Mae gwrthrych y data wedi rhoi caniatâd i brosesu ei ddata personol at un neu fwy o ddibenion penodol." (Erthygl 6(1)(a) GDPR y DU).

Gan eich bod yn cydsynio i ni ddefnyddio eich data personol at ddibenion sy'n gysylltiedig â Phorthladd Rhydd Celtaidd, cewch dynnu eich caniatâd yn ôl rhag y prosesu hwn ar unrhyw adeg drwy roi gwybod i ni yn ysgrifenedig.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw am gyfnod o chwe blynedd neu nes i chi roi gwybod i ni nad ydych bellach yn cydsynio i brosesu eich gwybodaeth bersonol.

Gyda phwy y byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol

Rhennir gwybodaeth a gesglir trwy'r wefan hon gyda NPT, PCC, ABP ac MHPA.

Ni yw'r Rheolwr Data ar gyfer y wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu ar gyfer y Porthladd Rhydd Celtaidd a defnyddir gwybodaeth o'r fath at ddibenion cysylltiedig â'r Porthladd Rhydd Celtaidd yn unig.

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion yn yr Hysbysiadau Preifatrwydd canlynol isod –

Defnyddio proseswyr data

Trydydd partïon yw proseswyr data sy'n darparu elfennau o'n gwasanaethau i ni, megis cyflenwyr systemau digidol sy'n trin neu'n casglu data personol ar ran y Porthladd Rhyddid Celtaidd. Mae gennym gontractau gyda'n proseswyr data. Mae hyn yn golygu na allant wneud unrhyw beth â'ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi gofyn iddynt wneud hynny. Ni fyddant yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad ar wahân i'r is-gontractwyr a gymeradwywyd gan y Porthladd Rhydd Celtaidd. Mae'n ofynnol i broseswyr data gadw unrhyw wybodaeth bersonol yn ddiogel a'i chadw am y cyfnod rydym yn ei gyfarwyddo.

Cwcis

Eich hawliau

Noder, dan GDPR y DU, bod gan unigolion yr hawliau canlynol mewn perthynas â'u data personol:

i. Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan reolwr data.
ii. Yr hawl i gywiro data anghywir gan reolwr data.
iii. Yr hawl i ddileu eu data (dan amgylchiadau cyfyngedig penodol).
iv. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (dan amgylchiadau cyfyngedig penodol).
v. Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
vi. Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data yn electronig i reolwr data arall).

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth

Sut i gwyno

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon am ein defnydd o'ch data personol (gweler manylion DPO CNPT uchod). Rydym yn gobeithio y gallwn ddatrys unrhyw broblemau sydd gennych.

Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth, gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth gan ddefnyddio'r manylion yn https://ico.org.uk/make-a-complaint neu dros y ffôn: 0303 123 1113.

Byddwch yn rhan o ddyfodol y Porthladd Rhydd Celtaidd

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost.

Byddwch yn rhan o
Dyfodol Celtic Freeport

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost. 

Bydd y wybodaeth a gesglir ar y safle hon yn cael ei chadw gan Gymdeithas Porthladdoedd Prydain a'i defnyddio gan bartneriaid y Porthladd Rhydd Celtaidd: Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Phorthladd Aberdaugleddau. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i rannu newyddion am y Porthladd Rhydd Celtaidd yn unig.