Cyffredinol
Mae www.celticfreeport.wales a www.porthladdrhyddceltaidd.cymru yn wefannau a reolir gan Waters Creative, ar ran consortiwm y Porthladd Rhydd Celtaidd (sy'n cynnwys Cymdeithas Porthladdoedd Prydain (ABP), Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (NPT), Cyngor Sir Penfro (PCC) a Phorthladd Aberdaugleddau (MHPA)) y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel 'Ni'.
Bydd gwybodaeth a gesglir ar y wefan hon yn cael ei chynnal gan ABP a'i defnyddio gan bartneriaid Celtic Freeport: ABP, NPT, PCC a MHPA.
Mae consortiwm y Porthladd Rhydd Celtaidd wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018.
Ni yw'r Rheolwyr Data ar gyfer gwybodaeth bersonol a gyflwynir trwy wefan y Porthladd Rhydd Celtaidd i'w defnyddio at ddibenion cysylltiedig â'r Porthladd Rhydd yn unig.
Am ragor o fanylion am y defnydd o'ch gwybodaeth bersonol, gweler Hysbysiad Preifatrwydd y Porthladd Rhydd Celtaidd.
Gan mai ABP sy'n cynnal y wefan hon, mae Hysbysiad Preifatrwydd ABP yn berthnasol i wybodaeth bersonol a gesglir trwy'r wefan hon:
- Hysbysiad Preifatrwydd ABP: https://www.abports.co.uk/support/privacy-notice/
Fe'ch cyfeirir hefyd at y canlynol i gael rhagor o wybodaeth:
- Hysbysiad Preifatrwydd CNPT: https://www.npt.gov.uk/16238
- Hysbysiad Preifatrwydd PCC: https://www.pembrokeshire.gov.uk/privacy-promise/privacy-notice-public-conveniences
- Hysbysiad Preifatrwydd MHPA: https://www.mhpa.co.uk/mhpa-privacy-policy/
Mae gwefan y Porthladd Rhydd Celtaidd yn cael ei chynnal ar gyfer eich defnydd personol ac i chi gael ymweld â hi. Mae mynediad a defnydd y wefan sy'n cynnwys y telerau ac amodau hyn yn golygu eich bod ('Y Defnyddiwr') yn derbyn y telerau ac amodau hyn, sy'n dod i rym o'r dyddiad y byddwch yn defnyddio'r wefan hon gyntaf.
Rydym yn cadw'r hawl i adolygu'r telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg heb rybudd. Os bydd adolygiad yn digwydd, bydd y telerau ac amodau diwygiedig yn cael eu harddangos ar y tudalennau hyn a bydd y defnydd parhaus o wefan y Porthladd Rhydd Celtaidd ar ôl gwneud adolygiad o'r fath yn golygu eich bod yn derbyn y telerau ac amodau diwygiedig.
Yn unol â Safonau'r Gymraeg a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2016, cyhoeddir yr holl gynnwys yr ydym yn uniongyrchol gyfrifol amdano'n ddwyieithog. Cyfrifoldeb y safleoedd allanol yr ydym yn cynnwys dolenni atynt yw cydymffurfio â'u Cynllun Iaith Gymraeg eu hunain, os oes cynllun o'r fath yn bodoli, neu â Safonau'r Gymraeg.
Dolenni at wefannau eraill
Er hwylustod i chi, Y Defnyddiwr, mae consortiwm y Porthladd Rhydd Celtaidd yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y dolenni hyperdestun o'r Wefan hon i Wefannau eraill a weithredir gan endidau eraill yn berthnasol ac yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol.
Os byddwch yn ceisio unrhyw un o'r gwefannau hyn y mae eu dolenni wedi'u cynnwys yma, byddwch yn gadael gwefan y Porthladd Rhydd Celtaidd ac rydych yn gwneud hynny ar eich risg eich hun: mater i chi yw cymryd unrhyw fesurau angenrheidiol i warchod rhag firysau a/neu gyrff dinistriol/llygredig eraill.
Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn y mae eu dolenni i'w cael yma na dibynadwyedd unrhyw wybodaeth a ddarperir ynddynt ac nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd o gwbl (boed yn gyfreithiol neu fel arall) am unrhyw golledion neu niwed gan gynnwys, heb gyfyngiad, colledion neu niwed anuniongyrchol neu ganlyniadol, sy'n deillio o ddefnyddio unrhyw un o'r gwefannau hyn y mae eu dolenni i'w gweld yma neu mewn cysylltiad â defnyddio unrhyw un o'r gwefannau hynny. Ni ddylid cymryd cynnwys hypergysylltiadau i wefannau eraill, mewn unrhyw ffordd, yn gymeradwyaeth i unrhyw fath o'r gwefannau hyn gennym ni.
Diogelu Feirws
Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam cynhyrchu. Mae pob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen wrth-firws ar yr holl ddeunydd sy'n cael ei lawrlwytho oddi ar y rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, aflonyddwch neu ddifrod i'ch data neu eich system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy'n deillio o'r wefan hon.
Ansawdd Data
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu ansawdd dda yn y wybodaeth y mae'n ei darparu ar y wefan hon a gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth hon yn gywir ac yn gyfredol.
Os ydych chi'n credu bod unrhyw anghywirdebau neu wybodaeth hen ar y wefan hon, cysylltwch â'r gwefeistr trwy e-bost ar enquiry@celticfreeport.wales.
Awdurdodaeth gyfreithiol
Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.
Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
Telerau ac Amodau Trydydd Parti
Rydym yn defnyddio YouTube i gyflwyno fideos. Telerau Gwasanaeth YouTube