Mae gan dde-orllewin Cymru brifysgolion a cholegau rhagorol, cefn gwlad hardd, traethau godidog ac enw da am groeso cynnes.
Ein nod yw sefydlu amgylchedd bywiog lle mae pobl yn gweithio, ond hefyd yn dewis byw a threulio eu hamser hamdden.
Er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon, rydym am i breswylwyr ddod o hyd i gyflogaeth foddhaus yn eu rhanbarth.
P'un a ydych chi'n megis dechrau arni yn eich gyrfa neu'n chwilio am her newydd, nod y Porthladd Rhydd Celtaidd yw creu cyfleoedd gwaith sy'n talu'n dda.
Bydd y busnesau sy'n ffurfio'r Porthladd Rhydd yn cynnig rolau amrywiol wrth iddynt esblygu ac ehangu, o weldwyr, peirianyddion trydanol a dadansoddwyr data i arolygwyr morol, rheolwyr prosiect a pheirianyddion nwy.
Bydd y swyddi hyn yn cyfrannu at sefydlu seilwaith porthladd newydd, gorsafoedd tanwydd amgen, cyfleusterau ynni adnewyddadwy a ffatrïoedd.
Bydd gweithlu dynamig yn cefnogi cymuned ffyniannus. Bydd ehangu economaidd yn creu llawer o gyfleoedd, o gontractau newydd i gwmnïau adeiladu ac adeiladau ychwanegol i'w cynnal i gwsmeriaid newydd ar gyfer bwytai, tafarndai, caffis a gwestai.