Cenhadaeth a Gwerthoedd

Cenhadaeth

Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd wedi ymrwymo i ddenu buddsoddiad ac arloesi yng Nghymru drwy gefnogi diwydiannau presennol a chyflymu’r newid i economi werdd. Trwy bartneriaethau cynhwysol, ein nod yw grymuso cymunedau lleol i adeiladu dyfodol economaidd gwydn i Gymru.

Diben

Ein nod yw creu coridor diwydiant ac arloesi o'r radd flaenaf sy'n manteisio ar gryfderau Cymru ym meysydd ynni, peirianneg a gweithgynhyrchu.

Mae'r Celtic Freeport yn ymroddedig i adnewyddu diwydiannol, meithrin twf economaidd gwyrdd, datblygu sgiliau ac adfywio gweithgynhyrchu yng Nghymru. Byddwn yn helpu i sefydlu diwydiannau’r dyfodol sy’n cefnogi pontio cynaliadwy a chyfiawn i ddyfodol gwyrddach, wedi’i seilio ar waith teg, llesiant a phartneriaeth gymdeithasol.

Drwy gysylltu busnesau, cymunedau a llywodraethau, rydym yn ceisio sefydlu ecosystem lewyrchus sy’n hybu diogelwch ynni, ynni adnewyddadwy a chadernid economaidd, tra’n creu cyfleoedd medrus ar gyfer y gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol.

Gwerthoedd

Adnewyddu Economaidd

Rydym yn canolbwyntio ar feithrin economi wydn drwy gefnogi diwydiannau presennol a darparu llwyfan ar gyfer mentrau gwyrdd newydd. Drwy helpu diwydiannau Cymru i addasu i ddyfodol carbon isel, byddwn yn hybu ffyniant ac yn gwella cystadleurwydd De Cymru.

Cynaliadwyedd ac arloesi

Rydym yn blaenoriaethu arferion cynaliadwy ac yn hyrwyddo technolegau arloesol sy’n cryfhau diogelwch ffynonellau ynni, yn hybu ynni glanach ac yn lleihau effaith ar yr amgylchedd.  Mae ein hymrwymiad i arloesi yn gosod y Porthladd Rhydd Celtaidd fel arweinydd yn yr economi werdd.

Partneriaeth

Rydym wedi ymrwymo i feithrin partneriaethau cadarn â phartneriaid cymdeithasol, sefydliadau academaidd a chymunedau lleol.  Rydym yn deall bod rhaid i newid llwyddiannus fod o fudd i bawb, ac rydym yn gweithio ar y cyd i wella rhaglenni sgiliau sy’n darparu gwerth cymunedol tymor-hir.

Uniondeb

Rydym yn elwa o bartneriaeth gyhoeddus-breifat gref a pharhaus i gynllunio, cyflawni a monitro ein prosiectau.  Bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn cadw at y safonau amgylcheddol, cyflogaeth a diogelwch uchaf drwy gydol ei weithgareddau.

Byddwch yn rhan o ddyfodol y Porthladd Rhydd Celtaidd

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost.

Byddwch yn rhan o
Dyfodol Celtic Freeport

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost. 

Bydd y wybodaeth a gesglir ar y safle hon yn cael ei chadw gan Gymdeithas Porthladdoedd Prydain a'i defnyddio gan bartneriaid y Porthladd Rhydd Celtaidd: Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Phorthladd Aberdaugleddau. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i rannu newyddion am y Porthladd Rhydd Celtaidd yn unig.