Mae Cymru ar drothwy cyfle anhygoel wrth i’r trawsnewid ynni fynd rhagddo, ysgrifenna Luciana Ciubotariu, Prif Swyddog Gweithredol y Porthladd Rhydd Celtaidd.
Yn y Porthladd Rhydd Celtaidd, rydym yn gweld y potensial hwn yn ddyddiol ar draws dyfrffyrdd Port Talbot ac Aberdaugleddau, lle mae porthladdoedd o’r radd flaenaf, diwydiant sefydledig a gweithlu medrus mewn lle da i allu darparu’r genhedlaeth nesaf o brosiectau ynni glân.
Fodd bynnag, dyw uchelgais ond yn arwain at ganlyniadau os oes dull gweithredu cyfatebol ar waith.
Cysylltedd grid yw’r rheswm. Ar y funud, dyw’r rhwystr mwyaf i ddatgloi sgorio ynni newydd a seilwaith cynhyrchu hydrogen yn ne Cymru ddim oherwydd gweledigaeth, ariannu nac awydd o ran buddsoddwyr.
Yn Aberdaugleddau yn unig, mae cynlluniau storio ynni a datgarboneiddio diwydiannol sy’n cynrychioli dros £1 biliwn o fuddsoddiad posib yn wynebu gohiriadau sylweddol oherwydd yr amser sydd ei angen er mwyn sicrhau mynediad i’r grid - sydd mewn rhai achosion yn ddegawd neu ragor.
Gall y lefel yma o ansicrwydd gwneud cyrraedd penderfyniadau buddsoddi terfynol yn anodd iawn ac mae’n arafu’r buddion ehangach o ran creu swyddi, datblygu sgiliau a chefnogi seilwaith yn sylweddol.
Mae de Cymru wedi ennill enw da yn rhyngwladol fel hwb ynni.
Ond er mwyn gwireddu cyfleoedd yfory yn llawn, rhaid i ni ganolbwyntio’n ddiflino ar gyflawni: llwybrau mwy clir, penderfyniadau cyflymach a chamau gweithredu wedi’u cydlynu ar seilwaith grid. Nid her dechnegol yn unig yw cael mynediad at gapasiti grid; mae’n rhywbeth hanfodol o ran galluogi twf, buddsoddiad a chydnerthedd economaidd hirdymor ar gyfer y rhanbarth.