Cam Ymlaen i Safle Ynni H2

  • Ar ôl cael caniatâd cynllunio, mae Llywodraeth y DU yn cefnogi prosiect y Porthladd Rhydd Celtaidd yn y don gyntaf o Gontractau ar gyfer Gwahaniaeth.
  • Rhagwelir y bydd y cyfleuster cynhyrchu hydrogen yn llwyddo i gynhyrchu hyd at bum tunnell o nwy y dydd yn hen safle Puma Energy, Aberdaugleddau.

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau ei Chontractau ar gyfer Gwahaniaeth cymorthdaledig cyntaf dan y Model Busnes Cynhyrchu Hydrogen, gan sicrhau pris taro o £9.49 y cilogram o hydrogen gwyrdd dros 15 mlynedd.

Un o’r prosiectau dan sylw yw Hydrogen Gorllewin Cymru, sef menter 14.2 MW y Porthladd Rhydd Celtaidd ger Aberdaugleddau, a ddatblygwyd gan Ynni H2 a Trafigura.

Mae’r cynllun Contractau ar gyfer Gwahaniaeth yn sicrhau y bydd cynhyrchwyr yn cael y pris taro y cytunwyd arno trwy sicrhau’r gwahaniaeth rhwng y pris hwn a chyfradd y farchnad ar gyfer hydrogen llwyd.

Mae’r fenter hon yn ategu ymrwymiad y DU i gynhyrchu hydrogen gwyrdd, gan anelu at ysgogi pontio tuag at ynni gwyrdd.

Yn ôl Luciana Ciubotariu, Prif Swyddog Gweithredol y Porthladd Rhydd Celtaidd: “Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn croesawu datblygiad Hydrogen Gorllewin Cymru yn Aberdaugleddau, a fydd yn darparu hydrogen gwyrdd hanfodol ar gyfer cludiant a diwydiannau ac a fydd hefyd yn gwasanaethu fel deunydd crai cemegol ledled De Cymru. Mae’r prosiect yn tynnu sylw at natur amlbwrpas hydrogen gwyrdd o ran ategu busnesau lleol mawr fel Sofidel, gan gynorthwyo’r rhanbarth i bontio tuag at economi carbon isel.” 

Llun: Hydrogen Gorllewin Cymru

Byddwch yn rhan o ddyfodol y Porthladd Rhydd Celtaidd

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost.

Byddwch yn rhan o
Dyfodol Celtic Freeport

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost. 

Bydd y wybodaeth a gesglir ar y safle hon yn cael ei chadw gan Gymdeithas Porthladdoedd Prydain a'i defnyddio gan bartneriaid y Porthladd Rhydd Celtaidd: Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Phorthladd Aberdaugleddau. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i rannu newyddion am y Porthladd Rhydd Celtaidd yn unig.