- Mae RWE a Dragon yn cydweithredu ar Brosiect CO₂ Aberdaugleddau sy’n integreiddio’r gwaith o ddal carbon, a hefyd maent yn cydweithredu ar sefydlu terfynell gyfunol ar gyfer CO₂ ac LNG.
- Bydd cludo CO2 trwy ddulliau ac eithrio piblinellau yn helpu i hwyluso datgarboneiddio diwydiannol, gan helpu hefyd i ddiogelu swyddi a rhoi hwb i’r economi.
- Mae Adran Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg y DU ac UKRI wedi ymrwymo i roi cyllid ar gyfer cynnal astudiaethau dichonoldeb i archwilio’r posibilrwydd o adeiladu cynllun Prosiect CO₂ Aberdaugleddau.
Mae partneriaid y Porthladd Rhydd Celtaidd – sef RWE a Dragon LNG – wedi datgelu Prosiect CO₂ Aberdaugleddau, sy’n anelu at ddatgarboneiddio diwydiannau De Cymru.
Bydd y fenter hon yn integreiddio’r gwaith o ddal, hylifo, storio carbon dros dro, a’i gludo o safle Dragon trwy ddefnyddio dulliau ac eithrio piblinellau.
Trwy gysylltu cyfleusterau ar ddwy ochr Dyfrffordd Aberdaugleddau, mae’r prosiect yn anelu at ategu targed sero net y DU erbyn 2050 ac mae’n cyd-fynd â Phrosiect Dosbarthu Clwstwr Diwydiannol De Cymru.
Mae RWE yn bwriadu defnyddio technoleg dal carbon yng Ngorsaf Bŵer Penfro, gan fynd ati o bosibl i ddarparu 2.2 GW o ynni wedi’i ddatgarboneiddio – digon ar gyfer oddeutu 4.3 miliwn o gartrefi – a chan ddal hyd at 5 miliwn tunnell o CO₂ bob blwyddyn.
Mae Dragon LNG yn bwriadu cyfuno ailnwyeiddio LNG gyda hylifo CO₂ yn ei derfynell yn Waterston, gan wella effeithlonrwydd ynni a lleihau dwysedd carbon.
Yn ogystal ag anelu at leihau allyriadau diwydiannol, mae’r trefniant cydweithredu hwn yn anelu at ddiogelu swyddi a sbarduno twf economaidd yn y rhanbarth.
Yn ôl Luciana Ciubotariu, Prif Swyddog Gweithredol y Porthladd Rhydd Celtaidd: “Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn croesawu Prosiect CO₂ Aberdaugleddau fel cam hanfodol tuag at ddatgarboneiddio’r rhanbarth, gyda seilwaith hollbwysig ar gyfer cynorthwyo i gludo CO₂ a sbarduno’r economi hydrogen. Gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU ac UKRI, bydd y fenter hon yn helpu i sefydlu diwydiannau newydd, yn ogystal ag esgor ar gyfleoedd allforio a chryfhau dyfodol sero net Aberdaugleddau.
Llun: RWE a Dragon