Croesawodd Llywodraethau Cymru a’r DU Ed Tomp fel Cadeirydd parhaol newydd y Porthladd Rhydd Celtaidd, yn nodi pontio’r prosiect o’r cam datblygu i’r cam darparu.
Ymgymerodd Ed Tomp â’i rôl ar 1 Rhagfyr 2024 a bydd yn arwain y prosiect ail-ddiwydiannu ac adfywio hanfodol hwn. Bydd y Celtic Freeport yn denu £8.4bn o fuddsoddiad preifat a chyhoeddus, yn darparu 11,500 o swyddi newydd ac yn ychwanegu £8.1bn o werth economaidd (GVA). Ategir y weledigaeth hon gan gymhellion buddsoddi i fusnesau sy'n sefydlu gweithrediadau newydd mewn parthau datblygu dynodedig - safleoedd treth - yng Nghastell-nedd Port Talbot a Sir Benfro.
Rhwng 26 Tachwedd 2024 a 30 Medi 2034, gall busnesau sy'n buddsoddi yn safleoedd treth Celtic Freeport gael mynediad at gyfres o gymhellion. Mae’r rhain yn cynnwys dim Trethi Busnes am y pum mlynedd gyntaf, gostyngiadau sylweddol mewn cyfraniadau yswiriant gwladol a lwfansau cyfalaf uwch gan gynnwys gwariant cyfalaf llawn estynedig, i gefnogi eu penderfyniadau buddsoddi.
Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn gonsortiwm cyhoeddus-preifat, sy’n cynnwys Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Phorthladd Aberdaugleddau, ynghyd â datblygwyr ynni adnewyddadwy, cwmnïau ynni, chyfadeiladau diwydiannol, asedau arloesol, sefydliadau academaidd a darparwyr addysg. Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn cynnwys porthladdoedd Aberdaugleddau a Phort Talbot ac yn pontio datblygiadau ynni glân ac asedau arloesi, terfynfeydd tanwydd, gorsaf bŵer a pheirianneg drom ar draws De-Orllewin Cymru.
Gan groesawu’r newyddion, dywedodd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Economi, Ynni a Chynllunio: “Mae cyrraedd y garreg filltir hon yn wych i Gymru - yn arbennig i Gastell-nedd Port Talbot a Sir Benfro. Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd mewn sefyllfa dda i sicrhau buddsoddiad sylweddol, gyda dynodiad y safleoedd treth yn rhoi hyder a sefydlogrwydd i fusnesau y mae arnynt eu hangen i fuddsoddi a thyfu. Yn bwysicach fyth, bydd hyn yn creu swyddi cynaliadwy da, hynod fedrus i bobl Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a’r cyffiniau, gyda mwy o gyfleoedd ar gyfer cadwyni cyflenwi ledled Cymru. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’r holl bartneriaid i sicrhau llwyddiant y fenter.”
Dywedodd Alex Norris AS, Gweinidog Twf Lleol: “Mae’n wych gweld y Porthladd Rhydd Celtaidd ar agor i fusnes. Crëir hyn swyddi a rhoi hwb i arloesedd yn Aberdaugleddau, Port Talbot a gweddill De-Orllewin Cymru. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol a chynorthwyir i ddatgloi’r buddsoddiad fydd yn llywio twf yng Nghymru am genedlaethau i ddod.”
Dywedodd Y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae’n wych gweld y Porthladd Rhydd Celtaidd yn cymryd y cam pwysig hwn tuag at ddarparu swyddi da, lleol a buddsoddi yng Nghastell-nedd Port Talbot a Sir Benfro. Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi £26 miliwn yn y Porthladd Rhydd ac yn darparu cymhellion sylweddol i sicrhau bod ein gweledigaeth o economi ddiwydiannol newydd yn Ne Orllewin Cymru yn troi’n wirionedd.”
Dywedodd Sarah Jones AS, Gweinidog Gwladol dros Ddiwydiant, Llywodraeth DU: “Dyma newyddion gwych i Bort Talbot a Sir Benfro, ac mae’n gam mawr ymlaen tuag at sicrhau miloedd o swyddi newydd lleol o safon yn niwydiannau gwyrdd y dyfodol.” Bydd y safleoedd hyn o gymorth i hyrwyddo buddsoddiad yn yr economi leol, a gyda’n Strategaeth Ddiwydiannol, sydd ar y gweill, a’r Uwchgynhadledd Fuddsoddi Ryngwladol fwyaf llwyddiannus eto, rydym yn dangos i fuddsoddwyr fod De Orllewin Cymru wirioneddol ar agor i fusnes.”
“Mae’r wythnos hon yn nodi achlysur pwysig wrth i ni symud o ddatblygiad i’r cam darpariaeth. Wedi ei gyfoethogi gan ystod o gymhellion buddsoddi, bydd cynllun datblygu y Porthladd Rhydd Celtaidd yn camu yn ei flaen i gefnogi’r diwydiant presennol i ddatgarboneiddio, wrth greu ecosystem rhwng Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot, ble y gall diwydiannau gwyrdd megis tanwyddau cynaliadwy, hydrogen a gwynt alltraeth arnofiol, ffynnu”, dywedodd Ed Tomp, Cadeirydd y Porthladd Rhydd Celtaidd.
Gwefany Porthladd Rhydd Celtaidd a sianeli cyfryngau cymdeithasol ( LinkedIn , X a YouTube ).
Nodiadau i'r golygydd
- YPorthladd Rhydd Celtaidd :
- Tir – Dros 500 hectar wedi cysylltu i ddau borthladd dŵr dwfn, yng nghalon tirwedd ddiwydiannol Cymru, wedi’u gwreiddio gan becyn cymhellion buddsoddi.
- Cysylltedd – Ardal ddiwydiannol fwyaf cysylltiedig Cymru sy’n cynnig cysylltedd cryf, o’r rheilffordd, y ffordd a’r môr i biblinellau trosglwyddo a thanwydd.
- Sgiliau ac arloesedd – Etifeddiaeth leol sylweddol sy’n darparu cyfleoedd i uwchsgilio ac ailsgilio’r gweithlu presennol, yn ogystal â hyfforddiant i bobl ifanc, ochr yn ochr â rhwydwaith arloesi i ddod ag academyddion, busnesau a chanolfannau rhagoriaeth ynghyd.
- Ffigurau catalytig y Porthladd Rhydd Celtaidd :
- Cyfanswm Buddsoddiadau: £8.4bn (preifat a chyhoeddus)
- Cyflogaeth: 11,500
- Gwerth Ychwanegol Gros: £8.1bn .
- Mae Ed Tompwedi ymddeol fel gweithredwr o’r diwydiant olew ac mae ganddo brofiad rhyngwladol helaeth. Mae wedi gwasanaethu ar Fwrdd Strategaeth Economaidd Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Bwrdd Ardal Fenter Dyfrffordd Y Daugleddau a Bwrdd Llywodraethu Coleg Sir Benfro. Mae wedi byw gyda’i deulu yn Sir Benfro ers 18 mlynedd, ymddeolodd o’i swydd fel Is-Lywydd a Rheolwr Cyffredinol ym Mhurfa Valero Penfro yn 2021.
- Mae safle treth porthladd rhydd yn ardal ddynodedig o fewn porthladd rhydd y DU sy’n cynnig gostyngiadau treth arbennig i annog busnesau i fuddsoddi. Gellir gweld manylion y cynnig safle treth ymayma drwy CThEF.
- Gellir gweld mapiau o’r ssafleoedd treth Porthladd Rhydd Celtaidd yma .