Mae'r Porthladd Rhydd Celtaidd wedi croesawu Strategaeth Fasnach newydd Llywodraeth y DU, gan gydnabod ei photensial i ryddhau twf, denu buddsoddiad a chyflymu’r broses o drosglwyddo i economi wyrddach.
Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd, sydd wedi’i ganoli ar y porthladdoedd dŵr dwfn ym Mhort Talbot ac Aberdaugleddau, yn chwarae rhan allweddol o ran cefnogi masnach ryngwladol.
Mae’r Strategaeth Fasnach yn gam amserol yn y broses o ddatgloi potensial porthladdoedd rhydd ar draws y genedl.
“Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn croesawu Strategaeth Fasnach newydd Llywodraeth y DU, sy’n cyd-fynd yn agos gyda’n cenhadaeth i ysgogi mewnfuddsoddiad sylweddol i ddiwydiannau sy’n dod i'r amlwg drwy ein rhwydwaith porthladdoedd sydd wedi’u cysylltu’n rhyngwladol. Mae’r strategaeth yn hybu cyfleoedd ar gyfer allforion gwerth uchel, mewnfuddsoddiadau a datblygiad cynaliadwy ledled Cymru a’r DU ehangach. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid ar draws y diwydiant a’r llywodraeth i sicrhau bod porthladdoedd rhydd fel ein un ni yn parhau i gyflymu’r daith tuag at ddyfodol llewyrchus drwy fasnach a logisteg o’r radd flaenaf ,” dywedodd Luciana Ciubotariu, Prif Weithredwr y Porthladd Rhydd Celtaidd.