Mae'r cynnig Porthladd Rhydd Celtaidd yn canolbwyntio ar dwf economaidd, sgiliau gwyrdd y dyfodol a gweithgynhyrchu uwch i Gymru.
Mae'r cynnig, a gyflwynwyd i lywodraethau Cymru a'r DU ar 24 Tachwedd 2022, yn ymdrin â dau borthladd allweddol yn ne Cymru – Aberdaugleddau a Phort Talbot – ynghyd â chyfadeiladau diwydiannol strategol a chanolfannau logisteg, er mwyn creu coridor buddsoddi ac arloesi gwyrdd.
Newyddion: Cynnig gweddnewidiol ar gyfer Porthladd Rhydd Celtaidd yn cael ei gymeradwyo.
Bydd Porthladd Rhydd Celtaidd yn cyflymu buddsoddiad mewnol sylweddol mewn cyfleusterau gweithgynhyrchu newydd er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno gwynt alltraeth arnofiol (FLOW) yn y Môr Celtaidd, wrth gynnig conglfaen ar gyfer dyfodol glanach yn seiliedig ar yr economi hydrogen, tanwyddau cynaliadwy, casglu carbon, dur glanach a logisteg carbon isel.
Partneriaeth cyhoeddus-preifat
Cyflwynwyd y cais trawsnewidiol hwn am borthladd rhydd yn ne-orllewin Cymru gan gonsortiwm cynnig sy’n cynnwys Cymdeithas Porthladdoedd Prydain (ABP), Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Phorthladd Aberdaugleddau, ac a gefnogir gan sawl unigolyn a sefydliad arall.
Mae’r buddsoddwr technoleg blaenllaw ac arbenigwr yn y sector dur, Roger Maggs MBE, wedi’i ddewis gan bartneriaid y cynnig i gadeirio’r consortiwm Porthladd Rhydd Celtaidd.
Diolch am gofrestru diddordeb yn y Porthladd Rhydd Celtaidd.
Bydd yr wybodaeth sy’n cael ei chasglu ar y wefan hon yn cael ei chynnal gan Associated British Ports a’i defnyddio gan bartneriaid y Porthladd Rhydd Celtaidd: Associated British Ports, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Phorthladd Aberdaugleddau. Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio mewn perthynas â rhannu newyddion am y Porthladd Rhydd Celtaidd yn unig.