Canlyniadau Arwerthiant Gwynt Alltraeth AR7

Bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant, datblygwyr a llywodraethau i sicrhau bod porthladdoedd Cymru yn barod i gefnogi’r gwaith o gyflawni a gosod prosiectau FLOW, yn ogystal â chefnogi eu gweithrediadau hirdymor - gan sicrhau’r buddion economaidd mwyaf posibl a swyddi medrus i’r rhanbarth.

Mae’r arwerthiant yn cynnwys llwyddiant i brosiect gwynt alltraeth arnofiol (FLOW) Erebus yn y Môr Celtaidd, gan atgyfnerthu hyder ym mhotensial y rhanbarth i gyflawni datblygiadau FLOW.  

Dywedodd Llefarydd ar ran y Porthladd Rhydd Celtaidd: “Mae cyhoeddiad AR7 heddiw, a llwyddiant Erebus, yn ychwanegu rhagor o fomentwm at dwf gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd, a hynny wrth inni symud tuag at ddatblygiadau ar raddfa fasnachol a fydd ym mhorthladdoedd Cymru yn y blynyddoedd sydd i ddod.”

Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd wedi croesawu canlyniadau arwerthiant gwynt alltraeth Rownd Dyrannu 7 (AR7) heddiw. Cafodd cyfanswm o 8.4GW o gapasiti ei ddyfarnu, gan nodi carreg filltir sylweddol i sector gwynt alltraeth y DU ac i ddyfodol gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd.

Byddwch yn rhan o ddyfodol y Porthladd Rhydd Celtaidd

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost.

Byddwch yn rhan o
Dyfodol Celtic Freeport

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost. 

Bydd y wybodaeth a gesglir ar y safle hon yn cael ei chadw gan Gymdeithas Porthladdoedd Prydain a'i defnyddio gan bartneriaid y Porthladd Rhydd Celtaidd: Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Phorthladd Aberdaugleddau. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i rannu newyddion am y Porthladd Rhydd Celtaidd yn unig.