Lleoliad:
Cyngor Sir Penfro – Safle Treth Ffordd Llanion
Trosolwg
Cyngor Sir Penfro – Safle Treth Ffordd Llanion
Mae Cyngor Sir Penfro yn cefnogi safle datblygu sydd wedi'i leoli'n strategol yn Noc Penfro o fewn Porthladd Rhydd Celtaidd, mewn lleoliad i alluogi twf mewn ynni morol, gwynt alltraeth arnofiol (FLOW), hydrogen, a pheirianneg uwch. Mae'r safle yng nghanol clwstwr ynni glân sy'n datblygu'n gyflym ac sy'n gysylltiedig â Dyfrffordd Aberdaugleddau.
Bydd datblygiad ar y safle hwn yn canolbwyntio ar ddenu buddsoddiad mewnol sy'n cyd-fynd â thwf y sectorau ynni morol a charbon isel, gan gryfhau rôl Doc Penfro fel canolfan allweddol yn y Porthladd Rhydd Celtaidd.
Proffil tir
- 2.35 i 8.20 erw (yn amodol ar arolwg mesuredig)
- Wedi'i leoli ym Mharc Busnes Pont Cleddau yn Noc Penfro
- Lleoliad arfordirol strategol gerllaw Porthladd a therfynfa fferi Penfro
- Wedi'i ddynodi ar gyfer defnyddiau diwydiannol a masnachol B1/B2/B8 [bp2property.com]
- Mae amryw o fuddion Safle Treth ar gael (mewnosodwch ddolen i dudalen buddion safle treth). Ceisiwch gyngor treth annibynnol hefyd.
Seilwaith Ynni Presennol
- Agosrwydd at seilwaith hwb ynni morol Doc Penfro sy'n cefnogi FLOW ac ynni adnewyddadwy morol
- Mynediad i ardaloedd profi ynni morol a pharthau defnyddio yn Nyfrffordd Aberdaugleddau
- Seilwaith porthladd sefydledig gan gynnwys lle gosod i lawr, llithrfeydd, a mynediad morol
Sectorau Allweddol
- Cyfleoedd gweithgynhyrchu uwch
- Ymchwil a Datblygu
- Arloesedd
Tirfeddianwyr Safle Treth Porthladd Aberdaugleddau
Byddwch yn rhan o ddyfodol y Porthladd Rhydd Celtaidd
Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost.