Cyhoeddodd y Celtic Freeport Rifyn #7 o Celtic Freeport Connections , gan dynnu sylw at y momentwm ar draws ein coridor buddsoddi ac arloesi yn Ne-orllewin Cymru.
Mae'r rhifyn hwn yn nodi carreg filltir bwysig gyda llofnodi memorandwm o ddealltwriaeth sy'n datgloi £25 miliwn mewn cyllid sbarduno, ochr yn ochr â chyflwyno cynnig tollau newydd i gefnogi buddsoddiad.
Mae hefyd yn cynnwys hwb o £64 miliwn i ganolfan ynni gwynt alltraeth Port Talbot, cyfleoedd ariannu newydd ar gyfer y gadwyn gyflenwi a Strategaeth Dur y DU.
Mae'r cylchlythyr yn nodi gweledigaeth Celtic Freeport cyn etholiadau'r Senedd, gan ganolbwyntio ar ddatblygu seilwaith, cefnogaeth sector wedi'i thargedu a thwf rhanbarthol hirdymor.