Mae datblygiad ffermydd gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd wedi cyrraedd carreg filltir sylweddol, wrth i Ystâd y Goron gadarnhau cam terfynol ei rownd brydlesu ar gyfer tri safle oddi ar arfordiroedd Cymru a De Orllewin Lloegr.
Mae hwn yn gam sylweddol tuag at gyflenwi hyd at 4.5GW o ynni adnewyddadwy – digon i bweru dros bedair miliwn o gartrefi – tra’n cynhyrchu dros 5,000 o swyddi a chyfrannu £1.4 biliwn i economi’r DU.
Mae’r broses brydlesu, a elwir yn Rownd 5 o Brydlesu Gwynt Alltraeth, wedi symud i’w cham terfynol. Bydd cynigwyr llwyddiannus y tendr cyntaf (ITT Cam 1) yn cymryd rhan mewn ocsiwn terfynol y gwanwyn hwn, gyda disgwyl i gytundebau prydlesu gael eu harwyddo yn yr haf. Yn ogystal â’r cynlluniau cynhyrchu ynni, mae cynigwyr wedi cyflwyno cynlluniau i gefnogi creu swyddi lleol, datblygu porthladdoedd, ac adfywio economaidd.
Fel rhan o’u proses gyflwyno, nododd gynigwyr y rhestr fer nifer o borthladdoedd a allai chwarae rhan allweddol wrth osod a lleoli tyrbinau - yn arbennig fel porthladdoedd cyfuno, lle bydd tyrbinau yn cael eu gosod ar blatfformau arnofiol mawr. Y porthladdoedd a nodwyd yw (o’r gogledd i’r de):
- Porthladd Penfro (Porthladd Rhydd Celtaidd / Porthladd Aberdaugleddau)
- Porthladd Abertawe
- Porthladd Port Talbot (Porthladd Rhydd Celtaidd)
- Porthladd Bristol
- Porthladd Plymouth
- Porthladd Falmouth
- Porthladd Brest (Ffrainc).
Ymysg y rhain, mae Porthladd Port Talbot a Phorthladd Bristol wedi dod i’r amlwg fel ymgeiswyr cadarn i chwarae rhan ganolog mewn cefnogi’r prosiectau Rownd 5.
Mae’r tyrbinau arnofiol, a all gyrraedd uchder o 300 medr (gellir cymharu â The Shard), yn cynrychioli cam trawsnewidiol mewn seilwaith ynni adnewyddadwy. Mae Ystâd y Goron hefyd wedi buddsoddi mewn arolygon morol a chynllunio grid cynnar i helpu gyda lleihau risgiau datblygu.
Y rownd brydlesu hon yw cam cyntaf y weledigaeth ehangach i ddatgloi 12GW o botensial ynni gwynt yn y Môr Celtaidd erbyn 2030, ac y mae yn rhan o darged DU cyfan ar gyfer 20-30GW o wynt alltraeth.
Luciana Ciubotariu, Prif Weithredwr y Porthladd Rhydd Celtaidd : “Mae’r cyhoeddiad heddiw gan Ystâd y Goron yn hwb sylweddol i’r Porthladd Rhydd Celtaidd. Bydd y defnydd o Borthladd Penfro a Phorthladd Port Talbot i gyflawni’r prosiectau hyn yn cyflymu ein cenhadaeth i ddod yn hwb blaenllaw ar gyfer gwynt alltraeth arnofiol. Mae’r garreg filltir hon ein tynnu gam yn agosach at ddatgloi miloedd o swyddi a denu buddsoddiad hollbwysig i’r rhanbarth”.