Caniatâd ar gyfer Parc Ynni Adnewyddadwy Dragon Energy

  • Bydd tri thyrbin gwynt newydd ar y tir, a gaiff eu hintegreiddio gyda’r fferm solar bresennol, yn creu cannoedd o swyddi adeiladu ac yn cael gwared ag oddeutu 11,500 tunnell o allyriadau carbon bob blwyddyn.
  • O fis Medi 2025, bydd cronfa gymunedol bwrpasol yn ategu cyfleoedd uwchsgilio ac yn cynnig cymorthdaliadau ynni i drigolion Waterston, Llanudwal a Blackbridge.

Mae Dragon Energy wedi cael caniatâd cynllunio i osod tri thyrbin gwynt yn ei Barc Ynni Adnewyddadwy yn Waterston, gan ategu’r 18,500 o baneli solar sydd yno eisoes.

Nod y fenter hon yw lleihau allyriadau cyffredinol a chamu ymlaen ag amcanion datgarboneiddio’r cwmni.

Rhagwelir y bydd y tyrbinau newydd ar waith erbyn pedwerydd chwarter 2026.

Ar y cyd â chymunedau lleol, mae Dragon Energy wedi sefydlu cronfa budd cymunedol, a fydd yn dechrau ochr yn ochr â’r gweithrediadau masnachol.Bydd trydan glân dros ben yn cael ei allforio i’r grid lleol pan fydd y galw’n isel ar y safle.

Yn ôl Luciana Ciubotariu, Prif Swyddog Gweithredol y Porthladd Rhydd Celtaidd: “Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn croesawu ymrwymiad Dragon Energy i ymestyn capasiti adnewyddadwy ym Mharc Ynni Adnewyddadwy Waterston gyda thri thyrbin gwynt newydd, gan atgyfnerthu rôl y rhanbarth o ran pontio tuag at ynni gwyrdd yn y DU. Yn ogystal â gwella’r arfer o gynhyrchu ynni glân yn lleol, bydd y prosiect hwn yn esgor ar fuddion parhaol i gymunedau a bydd hefyd yn ategu ymdrechion i ddatgarboneiddio.”

Llun: Dragon Renewables

Byddwch yn rhan o ddyfodol y Porthladd Rhydd Celtaidd

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost.

Byddwch yn rhan o
Dyfodol Celtic Freeport

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost. 

Bydd y wybodaeth a gesglir ar y safle hon yn cael ei chadw gan Gymdeithas Porthladdoedd Prydain a'i defnyddio gan bartneriaid y Porthladd Rhydd Celtaidd: Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Phorthladd Aberdaugleddau. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i rannu newyddion am y Porthladd Rhydd Celtaidd yn unig.