Croesawodd y Porthladd Rhydd benderfyniad MorGen Energy i gymeradwyo’r penderfyniad buddsoddi terfynol (FID) ar gyfer cyfleuster cynhyrchu hydrogen gwyrdd yn Safle Treth Aberdaugleddau.
Mae prosiect Hydrogen Gorllewin Cymru ymhlith y rhai cyntaf a gefnogir gan Rownd Dyrannu Hydrogen (HASR1) blaenllaw Llywodraeth y DU i gyrraedd y garreg filltir hon.
Mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau yn 2026 a chomisiynu wedi’i gynllunio ar gyfer dechrau 2028. Bydd y ffatri yn cynhyrchu tua 2,000 o dunelli o hydrogen carbon isel pob blwyddyn yn unol â Safon Hydrogen Carbon Isel y DU.
Bydd yr hydrogen yn cefnogi cymwysiadau amrywiol, gan gynnwys datgarboneiddio porthladd, gwresogi diwydiannol, gweithgynhyrchu a’i ddefnyddio fel porthiant cemegol.
Mae disgwyl i’r prosiect greu swyddi medrus a darparu cyfleoedd i gontractwyr lleol yn ystod y gwaith adeiladu.
Mae gan y cyfleuster y potensial i ehangu yng nghamau’r dyfodol wrth i alw gynyddu, gan helpu i sefydlu Aberdaugleddau fel hwb hydrogen allweddol sy’n cefnogi datgarboneiddio diwydiannol ledled de Cymru.
Dywedodd Luciana Ciubotariu, Prif Weithredwr y Porthladd Rhydd Celtaidd: “Mae penderfyniad MorGen Energy yn gam sylweddol arall ymlaen ar gyfer yr economi hydrogen yn ne orllewin Cymru.
“Mae prosiectau fel hyn yn Safle Treth Aberdaugleddau yn dangos sut mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn cyflymu datgarboneiddio a hynny wrth greu swyddi gwerth uchel.”
Mae HAR1 yn darparu cefnogaeth refeniw i helpu i ehangu sector hydrogen carbon isel y DU a dod â phrosiectau cynnar i’r farchnad. Darllenwch ragor yma.