Freeport yn Croesawu Cefnogaeth Prosiect Hydrogen Gwyrdd

Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU sy’n datgan bod Hydrogen Gwyrdd Penfro 1 ymhlith y 27 prosiect ar y rhestr fer ar gyfer yr ail Rownd Dyrannu Hydrogen (HAR2).

Mae HAR2 yn cynorthwyo cynhyrchiad hydrogen carbon-isel drwy gontractau refeniw 15 mlynedd dan Fodel Busnes Cynhyrchu Hydrogen y DU.

Mae hydrogen yn allweddol i ddarparu ynni glân ledled y DU a datgarboneiddio diwydiannau ag allyriadau mawr, yn arbennig mewn rhanbarthau fel De Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwr y Porthladd Rhydd Celtaidd: “Mae rhestr fer RWE yn gam sylweddol arall tuag at wireddu ein gweledigaeth am economi hydrogen llewyrchus yn y Porthladd Rhydd Celtaidd.”

Cynhyrchir hydrogen gwyrdd gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy i ddadelfennu dŵr yn hydrogen ac ocsigen, gan greu tanwydd carbon sero i gynhyrchu pŵer, ac ar gyfer trafnidiaeth a defnydd diwydiannol.

Byddwch yn rhan o ddyfodol y Porthladd Rhydd Celtaidd

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost.

Byddwch yn rhan o
Dyfodol Celtic Freeport

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost. 

Bydd y wybodaeth a gesglir ar y safle hon yn cael ei chadw gan Gymdeithas Porthladdoedd Prydain a'i defnyddio gan bartneriaid y Porthladd Rhydd Celtaidd: Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Phorthladd Aberdaugleddau. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i rannu newyddion am y Porthladd Rhydd Celtaidd yn unig.