Y Porthladd Rhydd yn croesawu Prosiect CO2 Aberdaugleddau

Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn croesawu lansiad Prosiect CO₂ Aberdaugleddau yn y Senedd ar 18 Mawrth, menter gydweithredol a arweinir gan y partneriaid RWE a Dragon LNG.

Mae’r prosiect hwn yn nodi cam sylweddol tuag at ddyfodol cynaliadwy i Dde Cymru a’r DU ehangach, drwy ddatblygu ymdrechion datgarboneiddio rhanbarthol.

Yn dod â RWE, perchennog a gweithredwr Gorsaf Bŵer Sir Benfro, a Dragon LNG, gweithredwr terfynfa LNG sy’n cysylltu cyflenwadau nwy byd-eang i rwydwaith y DU, ynghyd, bydd y prosiect yn gweithio gydag Acorn, rhan o’r Clwstwr Albanaidd, i ddatblygu datrysiadau arloesol i leihau allyriadau carbon yng Ngorsaf Bŵer Sir Benfro a ledled sector diwydiannol De Cymru.

Bydd Acorn yn derbyn CO₂ ac yn darparu storio parhaol drwy gludo CO₂, gan sicrhau seilwaith rheoli carbon cadarn yn y DU.

Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn cefnogi’r fenter hon a’i rhan yn cyflawni targedau sero net rhanbarthol a chenedlaethol. Mae cludo CO₂ yn hanfodol i leihau allyriadau yn Aberdaugleddau, a gyda’r potensial i ddod yn hwb allweddol. Fodd bynnag, mae hyn yn ymofyn gweithrediad gan Lywodraeth y DU i integreiddio’r Clwstwr i ddilyniannu Trac 2 i sicrhau ei fod yn chwarae rhan lawn yng nghynlluniau datgarboneiddio’r DU.

Byddwch yn rhan o ddyfodol y Porthladd Rhydd Celtaidd

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost.

Byddwch yn rhan o
Dyfodol Celtic Freeport

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost. 

Bydd y wybodaeth a gesglir ar y safle hon yn cael ei chadw gan Gymdeithas Porthladdoedd Prydain a'i defnyddio gan bartneriaid y Porthladd Rhydd Celtaidd: Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Phorthladd Aberdaugleddau. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i rannu newyddion am y Porthladd Rhydd Celtaidd yn unig.