Port Talbot y Dyfodol

Mae Cymdeithas Porthladdoedd Prydain wedi datgelu menter o’r enw ‘Port Talbot y Dyfodol’, sy’n anelu at drawsnewid y porthladd a’i droi’n hwb ar gyfer datblygu gwynt alltraeth arnofiol ac ynni gwyrdd.

Ac yntau â statws safle treth y Porthladd Rhydd Celtaidd, mae tir datblygu a harbwr dwfn naturiol y porthladd yn ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer y trawsnewid hwn, a’r bwriad yw cynhyrchu hydrogen, dal carbon ac adeiladu prosiectau gwynt ar y tir.

Ar hyn o bryd, mae Cymdeithas Porthladdoedd Prydain yn mynd i’r afael â gwaith cynllunio meistr technegol i archwilio sut y gellir ailffurfweddu’r porthladd i ategu gwynt alltraeth arnofiol a chynorthwyo i ddatgarboneiddio diwydiannau De Cymru.

Maes o law, mae Cymdeithas Porthladdoedd Prydain yn bwriadu cynnal ymgynghoriad a chyflwyno ceisiadau cynllunio er mwyn gallu darparu gwynt alltraeth arnofiol mewn da bryd.

Trwy gydweithredu â datblygwyr, bydd modd sicrhau bod y porthladd yn cyd-fynd ag amserlen Rownd 5 Prydlesu Ystad y Goron, gan anelu at fod yn barod erbyn diwedd y degawd.

Gyda mwy na £500 miliwn o fuddsoddiadau arfaethedig, gallai’r prosiect esgor ar £1 biliwn o effaith economaidd, gan greu miloedd o swyddi a sefydlu Port Talbot fel hwb ynni gwyrdd o fri.

Gellir cael rhagor o wybodaeth yma: https://www.abports.co.uk/porthladdoedd-y-dyfodol-port-talbot/

Llun: ABPorts

Byddwch yn rhan o ddyfodol y Porthladd Rhydd Celtaidd

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost.

Byddwch yn rhan o
Dyfodol Celtic Freeport

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost. 

Bydd y wybodaeth a gesglir ar y safle hon yn cael ei chadw gan Gymdeithas Porthladdoedd Prydain a'i defnyddio gan bartneriaid y Porthladd Rhydd Celtaidd: Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Phorthladd Aberdaugleddau. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i rannu newyddion am y Porthladd Rhydd Celtaidd yn unig.