Derbyniad busnes Buddsoddi yng Nghymru yn lansioPorthladd Rhydd Ynys Môn a’r Porthladd Rhydd Celtaidd

Daeth mwy na 150 o westeion o’r gymuned fusnes, bancio a datblygu, a hefyd o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, i ymuno â Phorthladd Rhydd Ynys Môn a’r Porthladd Rhydd Celtaidd mewn derbyniad min nos – Buddsoddi yng Nghymru – a gynhaliwyd yn Sefydliad y Cyfarwyddwyr ar Pall Mall nos Iau 29 Chwefror, fel rhan o Wythnos Cymru Llundain.

Cafwyd anerchiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus David TC Davies AS a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans AS, ochr yn ochr â chyfraniadau gan y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS, Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, David Gwynne, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro, y Porthladd Rhydd Celtaidd, a phartneriaid Porthladd Rhydd Ynys Môn Dylan Williams, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Ynys Môn ac Ian Davies, Pennaeth Awdurdodau Porthladdoedd y DU yn Stena Line.

Medd y Gwir Anrhydeddus David TC Davies AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Pleser oedd mynychu’r derbyniad a chefnogi gwaith Porthladd Rhydd Ynys Môn a’r Porthladd Rhydd Celtaidd. Mae Llywodraeth y DU yn falch iawn o’n buddsoddiad o £52 miliwn a gwyddom fod y ddau borthladd rhydd yng Nghymru yn hanfodol i’n cenhadaeth, sef creu swyddi a lledaenu ffyniant.

“Credaf y gall Cymru fod ar flaen y gad o ran pontio tuag at sero net yn y DU, ac mae gan y ddau Borthladd Rhydd rôl hollbwysig o ran troi hyn yn realiti. Mae Ynys Môn yn gartref i rai o ddatblygiadau mwyaf arloesol y byd mewn technoleg gynaliadwy a chynhyrchu ynni, ac mae gan y Porthladd Rhydd Celtaidd y potensial i ddatblygu seilwaith porthladdoedd a chyfleusterau gweithgynhyrchu newydd i ategu’r gwaith o gyflwyno gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd. 

“Mae’r dyfodol yn ddisglair iawn ac edrychaf ymlaen at weld cynnydd tuag at gyrraedd y nodau hyn.”

Mewn anerchiad fideo yn y digwyddiad, dyma a ddywedodd Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru: “Mae cryfderau Port Talbot, Aberdaugleddau ac Ynys Môn yn rhoi Cymru mewn sefyllfa gref i wneud cyfraniad mawr at dargedau Cymru a’r DU ar gyfer ynni gwyrdd a masnach, yn cynnwys allforion. Bydd modd i’r Porthladd Rhydd Celtaidd a Phorthladd Rhydd Ynys Môn weithredu fel sbardun a’n galluogi i fanteisio i’r eithaf ar y cryfderau unigryw hyn.”

Yn ôl Ian Davies, Pennaeth Awdurdodau Porthladdoedd y DU yn Stena Line: “Mae bod yma heno a gweld brwdfrydedd cynifer o fusnesau gwahanol yn arwydd o’r cyfleoedd a ddaw yn sgil Porthladd Rhydd Ynys Môn. Mae’n amlwg i mi fod busnesau’n awyddus iawn i weithio gyda ni wrth inni fwrw ymlaen â’n prosiect porthladd rhydd, gan ddenu diwydiannau newydd a chynnig rhagor o swyddi i drigolion Ynys Môn, yn ogystal â rhoi hwb i’n mantais gystadleuol a chadarnhau Porthladd Caergybi fel porth ar gyfer masnach ryngwladol. Eisoes, rydym wedi dechrau clirio safleoedd y Porthladd Rhydd yn barod i’w hailddatblygu, ac rydw i’n llawn cyffro o gael gweithio gyda phob un o arweinwyr y byd diwydiant sydd yma heno wrth inni fwrw ymlaen â’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”

Ychwanegodd Ian Davies, Pennaeth Awdurdodau Porthladdoedd y DU Stena Line: "Mae bod yma heno a gweld brwdfrydedd cronfa mor amrywiol o fusnesau yn dyst i'r cyfle sydd yn Borth Rhydd Môn.  Mae'n amlwg i mi fod awydd enfawr gan fenter i weithio gyda ni wrth i ni ddatblygu ein prosiect porthladd rhydd, gan ddod â diwydiannau newydd a mwy o gyfleoedd cyflogaeth i bobl Ynys Môn, tra hefyd yn rhoi hwb i'n mantais gystadleuol a chadarnhau Porthladd Caergybi fel porth masnach ryngwladol.  Rydym eisoes wedi dechrau'r broses o glirio ein safleoedd Porthladd Rhydd wrth iddynt baratoi ar gyfer ail-ddatblygu, ac rwy'n hynod gyffrous i weithio gyda holl arweinwyr y diwydiant yma heno wrth i ni fwrw ymlaen â'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol." 

Medd Dylan Williams, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Ynys Môn: “Pleser yw cael bod yma heno i hyrwyddo a dathlu rhaglen porthladdoedd rhydd Cymru a siarad ag amrywiaeth eang o arweinwyr busnes sydd â diddordeb yn y cyfleoedd a ddaw yn sgil Porthladd Rhydd Ynys Môn. Mae hi’n hollbwysig inni barhau i weithio’n gyflym gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd modd rhoi Porthladd Rhydd Ynys Môn ar waith cyn gynted â phosibl, gan gynnig cyfleoedd i bobl a busnesau lleol ar hyd a lled Gogledd Cymru, yn ogystal â ffyniant hirdymor i’n cymunedau. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi mynychu’r noson hynod lwyddiannus hon ac i bawb sydd wedi cyfrannu ati.”

Byddwch yn rhan o ddyfodol y Porthladd Rhydd Celtaidd

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost.

Byddwch yn rhan o
Dyfodol Celtic Freeport

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost. 

Bydd y wybodaeth a gesglir ar y safle hon yn cael ei chadw gan Gymdeithas Porthladdoedd Prydain a'i defnyddio gan bartneriaid y Porthladd Rhydd Celtaidd: Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Phorthladd Aberdaugleddau. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i rannu newyddion am y Porthladd Rhydd Celtaidd yn unig.