Croesawodd y Celtic Freeport y newyddion bod Cyngor Sir Penfro wedi rhoi’r golau gwyrdd i biblinell nwy hydrogen 1.5km sy’n cysylltu Terfynfa Impala yn Aberdaugleddau â Therfynfa LNG South Hook.
Bydd y prosiect hydrogen gwyrdd – West Wales Hydrogen, menter safle treth Celtic Freeport 14.2MW, a ddatblygwyd gan MorGen Energy Ltd – yn cefnogi cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol ac yn nodi cam pwysig arall tuag at system ynni carbon isel fwy gwydn yn y rhanbarth.
Bydd y penderfyniad hwn yn cefnogi rôl Sir Benfro fel canolfan gynyddol ar gyfer hydrogen a thanwydd y dyfodol, gan gyd-fynd ag uchelgais Celtic Freeport i ysgogi arloesedd, datgarboneiddio a swyddi gwerth uchel ledled De-orllewin Cymru.