- Ym mis Ionawr 2025, rhoddodd Cyngor Sir Penfro gymeradwyaeth amodol i System Storio Ynni Batris 350 MW RWE ger Gorsaf Bŵer Sir Benfro.
- Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau tua diwedd 2025. Y nod yw rhoi’r safle ar waith erbyn dechrau 2028.
- Gyda 212 o gynwysyddion batris a 106 o systemau trosi ynni, ar gyfartaledd gallai’r cyfleuster hwn storio digon o drydan i ddiwallu anghenion dyddiol mwy na 72,000 o gartrefi nodweddiadol yn y DU.
Mae RWE yn bwrw ymlaen â’i gynlluniau ar gyfer system storio ynni batris 350 MW wrth ymyl Gorsaf Bŵer Penfro fel rhan o’i fenter Canolfan Sero Net Penfro.
Mae storio ynni batris yn hanfodol ar gyfer integreiddio ffynonellau adnewyddadwy fel ynni solar ac ynni’r gwynt oddi mewn i’r grid pŵer, gan storio ynni dros ben ar gyfer ei ddefnyddio yn ystod cyfnodau pan gaiff llai o ynni ei gynhyrchu.
Mae’r dechnoleg hon yn gwella sefydlogrwydd y grid trwy ymateb yn ddi-oed i newidiadau yn y galw neu yn yr ynni a gynhyrchir, gan gyfrannu at system ynni fwy cadarn a chan atgyfnerthu diogelwch ynni’r DU yn ystod y pontio tuag at ynni adnewyddadwy.
Yn ôl Luciana Ciubotariu, Prif Swyddog Gweithredol y Porthladd Rhydd Celtaidd: “Mae prosiect Batris Penfro yn ategu uchelgeisiau’r Porthladd Rhydd Celtaidd trwy wella gallu Cymru i arloesi a storio ynni carbon isel. Mae RWE yn parhau i gryfhau rôl y rhanbarth mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy, gan gyfrannu at grid pŵer glanach a mwy cadarn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Llun: RWE