Mae'r Porthladd Rhydd Celtaidd arfaethedig yn brosiect newydd cyffrous sy'n addo dadeni diwydiannol yn ne-orllewin Cymru gan greu 16,000 o swyddi newydd a £5.5bn o fewnfuddsoddiad newydd i gyd yn seiliedig ar ynni gwyrdd.
1
Creu 16,000 o swyddi gwyrdd newydd, o ansawdd dda, sy'n talu'n dda, wedi'u hategu gan arferion gwaith teg a gweithle cynhwysol
2
Hybu cyfleoedd sgiliau gwyrdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
3
Adeiladu dau borthladd ynni gwyrdd newydd i ddatgloi'r diwydiant ynni gwynt alltraeth arnofiol (FLOW) gwerth £54 biliwn.
4
Rhoi mantais i Gymru fel y wlad sy'n gweithredu gyntaf yn y math newydd hwn o ynni glân, dibynadwy gyda chyfleoedd allforio a chadwyn gyflenwi cryfach.
5
Helpu i roi bywyd newydd i ddiwydiant dur Cymru drwy ddefnyddio dur a wnaed ym Mhort Talbot i hybu datblygiad FLOW.
6
Denu mewnfuddsoddiad o £5.5 biliwn mewn technolegau modern, gwyrdd.
7
Datgarboneiddio clwstwr diwydiannol cynradd Cymru a gwneud cyfraniad mawr at gyflawni targedau allyriadau carbon sero-net cenedlaethol.
8
Hybu arloesedd mewn technolegau ynni glân eraill, megis ynni tonnau a llanw, hydrogen a thanwyddau cynaliadwy eraill.
9
Gwella cyflenwad a sicrwydd ynni domestig.
10
Ac, yn bwysig, buddsoddi mewn sgiliau, arloesi a phrosiectau lleol yn y dyfodol, drwy gronfa bwrpasol gwerth £500m.
Bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn enwi'r cynigydd llwyddiannus yn y ras i gynnal porthladd rhydd cyntaf Cymru ar ddechrau 2023.
Nod cais y Porthladd Rhydd Celtaidd yw creu coridor arloesi a buddsoddi gwyrdd gyda safleoedd ym mhorthladdoedd Port Talbot ac Aberdaugleddau lle fydd datblygiadau ynni glân, terfynellau tanwydd, gorsaf bŵer ac arloesedd tanwydd hydrogen yn ffynnu.
- Creu 16,000 o swyddi gwyrdd newydd o ansawdd dda
- Cyfleoedd Sgiliau Gwyrdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. O weldwyr i wyddonwyr data, bydd y rhain yn swyddi tymor hir sy'n talu'n dda yn seiliedig ar arferion gwaith teg a gweithleoedd cynhwysol.
- Adeiladu dau borthladd ynni gwyrdd estynedig i ddatgloi'r diwydiant gwynt alltraeth arnofiol (FLOW) gwerth £54 biliwn, o weithgynhyrchu, gosod a chynnal a chadw.
- Rhoi mantais i Gymru, yn y math newydd hwn o ynni glân, dibynadwy gyda chyfleoedd allforio a chadwyn gyflenwi cryfach.
- Helpu i roi bywyd newydd i ddiwydiant dur Cymru drwy hybu datblygiad y cyfle FLOW helaeth gan ddefnyddio dur a wnaed ym Mhort Talbot.
- Gwella'r atyniad at dde-orllewin Cymru yn sylweddol a denu £5.5 biliwn o fewnfuddsoddiad mewn technolegau gwyrdd modern.
- Datgarboneiddio clwstwr diwydiannol cynradd Cymru a gwneud cyfraniad mawr at dargedau allyriadau carbon sero-net cenedlaethol.
- Hybu arloesedd mewn technolegau ynni glân eraill fel tonnau a llanw, hydrogen a thanwyddau cynaliadwy eraill.
- Gwella cyflenwad a sicrwydd ynni domestig.
- Ac, yn bwysicach na hynny, creu sianel etifeddiaeth leol i fuddsoddi mewn sgiliau ar gyfer y dyfodol, arloesedd a phrosiectau lleol drwy gronfa bwrpasol gwerth £500 miliwn.
Cefnogir y Porthladd Rhydd Celtaidd gan gonsortiwm cyhoeddus-preifat, y mae ei bartneriaid yn cynnwys Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Phorthladd Aberdaugleddau, ochr yn ochr â llawer o bartneriaid cyhoeddus, preifat, academaidd a chymdeithasol eraill.
Dywedodd Roger Maggs MBE, Cadeirydd y consortiwm: "Gyda'i gilydd, mae'r elfennau allweddol hyn yn cyfuno i greu cynnig trawiadol ar gyfer porthladd rhydd integredig, amlbwrpas i Gymru.
"Mae consortiwm y Porthladd Rhydd Celtaidd hefyd yn darparu mynediad at ôl troed datblygu enfawr, gweithlu medrus a rhwydwaith o bartneriaid lleol, rhanbarthol a byd-eang sy'n gallu galluogi twf cyflym y sector gwynt alltraeth arnofiol ac economi hydrogen lewyrchus yng Nghymru.
"Gallai hyn adfywio economïau de a gorllewin Cymru a thu hwnt yn llwyr a gallai'r posibilrwydd o allforio gwynt arnofiol a thechnolegau gwyrdd eraill a ddatblygwyd yma ychwanegu at yr effaith drawsnewidiol hon."