Mae Ystad y Goron wedi cyhoeddi £13 miliwn ychwanegol mewn cyllid ar gyfer 16 o brosiectau cadwyn gyflenwi ynni gwynt alltraeth y DU ar ail rownd ei rhaglen Cyflymydd Cadwyn Gyflenwi.
Nod y rhaglen yw cyflymu a gwaredu risg yn natblygiad camau cynnar prosiectau cadwyn gyflenwi’r DU sy’n gwasanaethu’r sector ynni gwynt alltraeth, yn cynnwys ynni gwynt alltraeth arnofiol (FLOW).
Mae prosiectau llwyddiannus Cymru yn cynnwys cyfleuster profi Ynni Alltraeth y Môr Celtaidd Catapult, gorsaf adeiladu arnofiol Speera Seaworks ym Mhort Talbot a chefnogaeth i bartner y Porthladd Rhydd Celtaidd, Ledwood Engineering, yn Noc Penfro.
Croesawyd y gefnogaeth gan Luciana Ciubotariu, Prif Weithredwr y Porthladd Rhydd Celtaidd, a ddywedodd: “Dyma hwb arall i’w groesawu i Dde Cymru wrth i ni ddechrau creu cadwyn gyflenwi i ddarparu FLOW yn y Môr Celtaidd a thu hwnt. Mae hyn yn newyddion gwych i Ddoc Penfro, ORE Catapult a Phort Talbot, wrth i ni weithio i gryfhau gweithgynhyrchu lleol a chyflenwi galluoedd i ddenu buddsoddiad pellach i glwstwr ynni gwynt alltraeth cynyddol Cymru.”
Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer yr Economi, Ynni a Chynllunio: “Mae’r cyllid hwn yn bleidlais sylweddol o hyder yng ngalluoedd ynni gwynt alltraeth Cymru. O systemau angori awtomataidd Ledwood Engineering yn Noc Penfro i gyfleuster profi Ynni Alltraeth y Môr Celtaidd Catapult a gorsaf adeiladu arnofiol Speera Seaworks ym Mhort Talbot, mae’r prosiectau hyn yn dangos bod Cymru yn adeiladu’r seilwaith a’r arbenigedd i arwain y chwyldro ynni gwynt arnofiol.”
Y Gwir Anrh. Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “ Mae Cymru ar flaen y gad yn niwydiant ynni glân cynyddol y DU ac mae’n newyddion gwych bod mwy o brosiectau yn derbyn cyllid hanfodol fydd o gymorth i sicrhau eu llwyddiant. Mae datblygu ynni gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd yn cyflwyno cyfleoedd enfawr yng Nghymru, gan gyfrannu at ein twf economaidd a chreu miloedd o swyddi medrus sy’n talu’n dda.”