Cymeradwyo Safle Hydrogen Gwyrdd RWE

  • Cyfleuster hydrogen gwyrdd mawr cyntaf Cymru yn cael caniatâd cynllunio, gan roi hwb mawr i’r gwaith o gyflawni targed y DU, sef cynhyrchu 10 GW o hydrogen gwyrdd erbyn 2030.
  • Disgwylir i’r fenter leihau allyriadau carbon oddeutu 93,000 tunnell y flwyddyn – mae hyn yn cyfateb i dynnu 18,600 o geir oddi ar y ffyrdd bob blwyddyn.

Mae RWE, sef cwmni cynhyrchu ynni mwyaf Cymru, wedi cael caniatâd cynllunio llawn ar gyfer ei safle Hydrogen Gwyrdd wrth ymyl Gorsaf Bŵer Penfro.

Bydd y safle’n defnyddio peiriant electrolysis100-110 MW i gynhyrchu oddeutu dwy dunnell o hydrogen gwyrdd bob awr.

Lleolir y cyfleuster mewn man strategol wrth ymyl Gorsaf Bŵer Penfro, a bydd yn cynnwys cysylltiad uniongyrchol trwy gyfrwng piblinell â diwydiannau gerllaw.

Yn ôl Luciana Ciubotariu, Prif Swyddog Gweithredol y Porthladd Rhydd Celtaidd: “Mae Canolfan Sero Net Penfro yn cyd-fynd â’r weledigaeth ar gyfer y Porthladd Rhydd Celtaidd, gan atgyfnerthu treftadaeth ynni Sir Benfro a chan sbarduno arloesi. Trwy ddiogelu swyddi presennol a chreu swyddi newydd, yn ystod y cyfnod adeiladu a’r cyfnod gweithredol, bydd y prosiect yn cryfhau’r economi leol ac yn cynorthwyo’r rhanbarth i bontio tuag at ddyfodol carbon isel.”

Llun: RWE, Cymru

Byddwch yn rhan o ddyfodol y Porthladd Rhydd Celtaidd

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost.

Byddwch yn rhan o
Dyfodol Celtic Freeport

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost. 

Bydd y wybodaeth a gesglir ar y safle hon yn cael ei chadw gan Gymdeithas Porthladdoedd Prydain a'i defnyddio gan bartneriaid y Porthladd Rhydd Celtaidd: Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Phorthladd Aberdaugleddau. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i rannu newyddion am y Porthladd Rhydd Celtaidd yn unig.