Mae Luciana Ciubotariu wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr parhaol newydd y Porthladd Rhydd Celtaidd i sicrhau y bydd y prosiect ailddiwydiannu, datgarboneiddio ac adfywio hollbwysig hwn yn dwyn ffrwyth. Bydd yn dechrau yn ei swydd ym mis Mai 2024.
Daw Luciana â phrofiad helaeth i’r rôl hon, a hithau wedi bod yn rhan o dîm uwch-reolwyr Porthladd Rhydd Tafwys. Ar ôl gyrfa mewn uwch-rolau masnach, yn fwyaf diweddar i Lywodraeth y DU, mae ei phrofiad o ran ysgogi twf ym Mhorthladd Rhydd Tafwys, ynghyd â’r treiddgarwch strategol a enillodd yn sgil gyrfa a ganolbwyntiai ar fasnach a materion y llywodraeth, yn ei rhoi mewn sefyllfa unigryw i lywio’r Porthladd Rhydd Celtaidd.
Ochr yn ochr â’r penodiad hollbwysig hwn, mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd wedi cwblhau’r rhan bwysig gyntaf yn ei ddatblygiad trwy gyflwyno’r achos busnes amlinellol i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. I nodi’r ffaith ei fod yn symud o’r cam ymgeisio at y cam datblygu, ac y bydd yn y pen draw yn symud ymlaen at y cam gweithredol, mae’r Porthladd Rhydd wedi ailwampio’i bresenoldeb digidol, ac yn awr ceir gwefan newydd a sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol (LinkedIn, X ac YouTube).
Consortiwm cyhoeddus-preifat yw’r Porthladd Rhydd Celtaidd ac mae ei bartneriaid yn cynnwys Associated British Ports (ABP), Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Phorthladd Aberdaugleddau, ochr yn ochr â datblygwyr ynni adnewyddadwy, cwmnïau ynni, diwydiannau, asedau arloesi, sefydliadau academaidd a darparwyr addysg. Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn cynnwys porthladdoedd Aberdaugleddau a Phort Talbot ac mae’n cwmpasu datblygiadau ynni glân ac asedau arloesi, terfynellau tanwydd, gorsaf ynni, peirianneg drom a’r diwydiant dur ledled De Orllewin Cymru.
"“Rydw i’n teimlo’n gyffrous iawn ynglŷn ag arwain partneriaeth mor gryf a bwriadol ac rydw i’n edrych ymlaen at ddechrau yn fy swydd yn fuan a chydweithio gyda’r gymuned ehangach i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer De Cymru,”," medd Luciana Ciubotariu, Prif Weithredwr y Porthladd Rhydd Celtaidd..
Ychwanegodd:Bydd gan y Porthladd Rhydd Celtaidd rôl hollbwysig yn nyfodol yr economi werdd. Edrychaf ymlaen at greu rhagor o fomentwm y tu ôl i greu coridor buddsoddi gwyrdd ar draws De Orllewin Cymru. Mae’n brosiect cyffrous – bydd yn cyflymu arloesi yn y gadwyn gyflenwi ac yn annog buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith porthladdoedd, gweithfeydd tanwydd amgen, canolfannau ynni adnewyddadwy a ffatrïoedd. Hefyd, bydd yn cyflymu’r broses o feithrin sgiliau ar gyfer diwydiannau gwyrdd newydd a datgarboneiddio cenedlaethol.”."
"Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn fenter eithriadol, ac yn awr mae gennym fan cychwyn ar gyfer tîm eithriadol i’n harwain at y cam nesaf,”," medd Roger Maggs MBE, Cadeirydd y Porthladd Rhydd Celtaidd..
Lawrlwytho Datganiad i'r Wasg – EN
Lawrlwytho Datganiad i'r Wasg – CY