Y Porthladd Rhydd Celtaidd yn croesawu Cadeirydd Dros Dro

Heddiw, croesawodd y Porthladd Rhydd Celtaidd Dr Chris Martin OBE MStJ DL yn Gadeirydd Dros Dro Bwrdd Cwmni Cyfyngedig y Porthladd Rhydd Celtaidd, yn dilyn ymddiswyddiad Ed Tomp. Hoffa’r Porthladd Rhydd Celtaidd a’i bartneriaid ddiolch o galon i'r Cadeirydd sy’n ymadael, Ed Tomp, am ei arweinyddiaeth a’i gefnogaeth wrth arwain y tîm dros y 14 mis diwethaf.

Mae Chris Martin yn ymuno fel Cadeirydd Dros Dro, gyda gyrfa nodedig mewn swyddi arwain yn y maes porthladdoedd, ac ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus ac elusennol.

Gwasanaethodd am 12 mlynedd fel Cadeirydd ac Is-gadeirydd Porthladd Aberdaugleddau, porthladd ynni blaenllaw y DU, lle bu Chris yn hyrwyddo adfywio, buddsoddi mewnol a gwydnwch cymunedol. Yn eiriolwr cryf dros ddatblygiad rhanbarthol, cefnogodd Fargen Ddinesig Bae Abertawe a bu’n rhan o'r tîm a helpodd i sefydlu’r Porthladd Rhydd Celtaidd i ysgogi twf economaidd ar draws De Orllewin Cymru.  

Yn ogystal, gwnaeth gyfraniad sylweddol at fywyd cyhoeddus yng Nghymru, gan gadeirio pedwar sefydliad iechyd dros ddau ddegawd, ynghyd ag elusennau cenedlaethol a lleol ac ar hyn o bryd, mae’n cadeirio Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Yn 2023, cafodd ei benodi yn Ddirprwy Raglaw ar gyfer Dyfed ac yn 2025, dyfarnwyd OBE iddo am wasanaeth nodedig i’r sector porthladdoedd a gwasanaethau morol.

Mae partneriaeth gyhoeddus-breifat y Porthladd Rhydd Celtaidd dan arweiniad Associated British Ports (ABO), Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Phorthladd Aberdaugleddau. Mae'r Porthladd Rhydd hefyd yn dwyn ynghyd datblygwyr ynni adnewyddadwy, cwmnïau ynni, cyfadeiladau diwydiannol, hybiau arloesi, sefydliadau academaidd a darparwyr addysg. Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweithredu fel y corff sy’n atebol am gyllid cyhoeddus.

Byddwch yn rhan o ddyfodol y Porthladd Rhydd Celtaidd

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost.

Byddwch yn rhan o
Dyfodol Celtic Freeport

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost. 

Bydd y wybodaeth a gesglir ar y safle hon yn cael ei chadw gan Gymdeithas Porthladdoedd Prydain a'i defnyddio gan bartneriaid y Porthladd Rhydd Celtaidd: Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Phorthladd Aberdaugleddau. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i rannu newyddion am y Porthladd Rhydd Celtaidd yn unig.