Porthladd Rhydd Celtaidd – cymeradwyo buddsoddiad cyfalaf cychwynnol

Carreg filltir bwysig ar ôl cymeradwyo £18.4 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf cychwynnol

Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd wedi cyrraedd carreg filltir bwysig, gyda £18.4 miliwn o gyllid cyfalaf cychwynnol wedi’i gymeradwyo ar gyfer pedwar prosiect ar draws Port Talbot a Sir Benfro.

Bydd y buddsoddiad yn cefnogi seilwaith newydd, yn hwyluso gwaith datblygu ac yn helpu i ddenu rhagor o fuddsoddiad gan y sector preifat ar draws y Porthladd Rhydd.

Y prosiectau a gymeradwywyd yw:

  • Associated British Ports, Talbot Wharf, Port Talbot: £5 miliwn tuag at gynllun i ddatgloi 9.1 hectar ar gyfer cadwyn gyflenwi ynni gwynt arnofiol ar y môr.
  • Glannau'r Harbwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Port Talbot: £4.2 miliwn tuag at gynllun gwerth £8.4 miliwn i ddarparu chwe uned fusnes ym Mharc Arloesi’r Glannau.
  • Porthladd Aberdaugleddau, Criterion Quay, Porthladd Penfro: £7.2 miliwn tuag at gam cyntaf datblygiad a fydd yn adfer seilwaith morol, yn darparu lleoedd angori ychwanegol ac yn creu 1.7 hectar o le storio ar gyfer ynni gwynt arnofiol ar y môr.
  • Uwchraddio Glan Ledwood, Doc Penfro: £2 filiwn i wella mynediad morol ac i gefnogi gwaith gweithgynhyrchu a thrin cydrannau ar gyfer tyrbinau gwynt arnofiol ar y môr.

Dywedodd Chris Martin, Cadeirydd y Porthladd Rhydd Celtaidd:

“Mae cymeradwyo’r cyllid cyfalaf cychwynnol hwn yn gam mawr ymlaen i’r Porthladd Rhydd Celtaidd. Bydd y pedwar prosiect hyn yn darparu’r seilwaith sydd ei angen i ddatgloi buddsoddiad, cefnogi swyddi o safon uchel a hybu twf economaidd ar draws de-orllewin Cymru.

“Rydym bellach yn symud o’r cam cynllunio i’r cam cyflawni, gan weithio gyda’n partneriaid i droi dyheadau’r Porthladd Rhydd yn fanteision go iawn i fusnesau a chymunedau.”

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Kinnock:

“Mae hwn yn foment arwyddocaol ar gyfer datblygiad y Porthladd Rhydd Celtaidd, a fydd yn cadarnhau statws de-orllewin Cymru fel canolbwynt i ddiwydiannau’r dyfodol.

“Bydd buddsoddiad Llywodraeth y DU yn ddau borthladd rhydd Cymru yn creu miloedd o swyddi newydd, yn sbarduno cyfleoedd ac yn ysgogi twf economaidd i’r dyfodol.”

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Llywodraeth Cymru, Adam Price:

“Mae twf economaidd yn dibynnu ar gael y seilwaith cywir yn y mannau cywir. Bydd y prosiectau hyn yn helpu i ddatgloi safleoedd ar gyfer buddsoddiad, yn cefnogi datblygiad diwydiannau newydd ac yn cryfhau safle Cymru yn yr economi ynni glân sy’n tyfu.

“Bydd cau’r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU yn gofyn am fuddsoddiad penodol fel hwn, gan helpu i ddenu cyfalaf preifat, creu swyddi medrus a darparu manteision hirdymor i gymunedau ar draws Port Talbot a Sir Benfro.

“Mae cymeradwyo hyn heddiw yn nodi’r symudiad o uchelgais i gyflawni, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y prosiectau hyn yn helpu i ysgogi twf ar draws y Porthladd Rhydd Celtaidd.”

Darperir y cyllid cyfalaf cychwynnol gan Lywodraeth y DU drwy Raglen y Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru.

Mae'r dyfarniadau cyllid yn dal yn amodol ar gytuno ar amodau'r grant a chwblhau'r trefniadau cyllido angenrheidiol, gan gynnwys darpariaethau monitro, sicrwydd ac adfachu.

Lawrlwythwch y Datganiad i'r Wasg yma

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn bartneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat dan arweiniad Associated British Ports, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Benfro a Phorthladd Aberdaugleddau. Mae hefyd yn cynnwys datblygwyr ynni adnewyddadwy, cwmnïau ynni, cyfadeiladau diwydiannol, asedau arloesi, sefydliadau academaidd a darparwyr addysg.
  • Mae'r Porthladd Rhydd yn darparu'r sylfaen ar gyfer dyfodol glanach sy'n seiliedig ar ynni gwynt arnofiol ar y môr, yr economi hydrogen, tanwyddau cynaliadwy, dal a storio carbon, dur glanach a logisteg carbon isel. Disgwylir i’r Porth Rhydd Celtaidd ddenu buddsoddiad o £8.4 biliwn a chreu 11,500 o swyddi newydd.

Byddwch yn rhan o ddyfodol y Porthladd Rhydd Celtaidd

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost.

Byddwch yn rhan o
Dyfodol Celtic Freeport

Am y wybodaeth, y datblygiadau a'r cyfleoedd diweddaraf gan y Porthladd Rhydd Celtaidd a'n partneriaid, cofrestrwch i'n cylchlythyr e-bost. 

Bydd y wybodaeth a gesglir ar y safle hon yn cael ei chadw gan Gymdeithas Porthladdoedd Prydain a'i defnyddio gan bartneriaid y Porthladd Rhydd Celtaidd: Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Phorthladd Aberdaugleddau. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i rannu newyddion am y Porthladd Rhydd Celtaidd yn unig.