Amlinellodd gweinidogion Llywodraeth Cymru a’r ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth, Vaughan Gething AS a Jeremy Miles AS, eu cefnogaeth i’r Porthladd Rhydd, fel rhan o drawsnewidiad pontio teg Cymru i economi wedi’i datgarboneiddio.
Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn canolbwyntio ar dwf economaidd newydd, sgiliau ar gyfer y dyfodol a gweithgynhyrchu ar gyfer Cymru. Bydd y Porthladd Rhydd yn creu diwydiannau ar gyfer y dyfodol a chenedlaethau yfory - gan roi hwb i drawsnewidiad pontio teg i ddyfodol mwy gwyrdd, ar sail gwaith teg, llesiant a phartneriaeth gymdeithasol.
Mae hwn yn brosiect cyffrous a fydd yn cyflymu arloesedd y gadwyn gyflenwi ac yn annog buddsoddiad sylweddol mewn isadeiledd porthladd, peirianwaith tanwydd amgen, lleoliadau a ffatrïoedd ynni adnewyddadwy, wrth gyflymu datblygiad sgiliau modern ar gyfer diwydiannau gwyrdd newydd a datgarboneiddiad cenedlaethol.